You are currently viewing March/April Newsletter

March/April Newsletter

It has been a busy month at Newport Makerspace!
Mae hi wedi bod yn fis prysur yng Nghreudy Casnewydd!

Makers’ Night has been super busy! We are at capacity most weeks now which is a fantastic problem to have. We are doubling down efforts to launch our makerspace membership, which is currently in a pilot. We expect that the makerspace will be open for use between 9.30am and 4pm on Weekdays and Saturdays for members in the very near future now – how exciting! Standard membership for the makerspace is £10 per month
Mae’r Nosweithiau Gwneuthurwyr wedi bod yn hynod o brysur! Rydym ni’n llawn y rhan fwyaf o wythnosau nawr, sy’n broblem wych i’w chael. Mae pawb yn torchi llewys i lansio aelodaeth y creudy, ac mae honno’n cael ei chynnal fel cynllun peilot ar hyn o bryd. Yn y dyfodol agos iawn, rydym ni’n disgwyl y bydd y creudy yn agored i’w ddefnyddio gan aelodau rhwng 9.30am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn  – am gyffrous! £10 yw Aelodaeth safonol y creudy.

We finally installed our Warco WM-16 Milling Machine which has been sitting on a pallet since we received it in January. The machine is still waiting to be commissioned, but thank you to the team that helped with the heavy lifting!
O’r diwedd, gwnaethom ni osod ein Peiriant Melino Warco WM-16 sydd wedi bod yn eistedd ar baled ers i ni ei dderbyn ym mis Ionawr. Mae’r peiriant yn dal i aros i gael ei gomisiynu, ond diolch i’r tîm a helpodd gyda’r codi trwm!

If you didn’t get the news, Newport Makerspace came first in the last local Green Token Scheme held by Asda Pillgwenlly, and received a £500 cheque as a reward. Thank you to everyone that voted for us online! We plan to use the funds to supply materials for two residencies at the makerspace, more on this soon.
Os nad ydych chi wedi clywed y newyddion, Creudy Casnewydd a oedd yn fuddugol yn y Cynllun Tocyn Gwyrdd lleol diwethaf a gafodd ei gynnal gan Asda Pillgwenlli, a derbyniodd siec o £500 yn wobr. Diolch i bawb a bleidleisiodd drosom ni ar-lein! Rydym ni’n bwriadu defnyddio’r arian i ddarparu deunyddiau ar gyfer dau breswyliad yn y creudy, mwy ar hyn yn y man.

 

We hosted a 3D printing workshop for Repair Cafe Wales volunteers in collaboration with Re:Make Newport. The workshop was hosted by two experts from ShaRepair, an organisation that is part of Print City, a large additive manufacturing lab at Manchester Metropolitan University. The workshop was attended by 10 volunteers and covered CAD in Fusion360, slicing in Cura and use of 3D printers. We hope to host more workshops like this in the near future.
Gwnaethom ni gynnal gweithdy argraffu 3D ar gyfer gwirfoddolwyr Caffi Trwsio Cymru ar y cyd â Re:Make Casnewydd. Cafodd y gweithdy ei gynnal gan ddau arbenigwr o ShaRepair, sefydliad sy’n rhan o Print City, labordy gweithgynhyrchu haen-ar-haen mawr ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion. Daeth 10 o wirfoddolwr i’r gweithdy, ac roedd yn cynnwys CAD yn Fusion360, sleisio yn Cura a defnyddio argraffwyr 3D. Ein gobaith ni yw cynnal mwy o weithdai fel hyn yn y dyfodol agos.

That is all for now, I hope to see you all soon!
Dyna ni am y tro, gobeithio eich gweld chi  i gyd yn fuan!

best regards,
Cofion gorau,

Aidan